
YCHYDIG BACH MWY AMDANOM NI
Dechreuodd ein stori yn 2017 ym Mhrifysgol Edge Hill
Owain yn astudio Animeiddio a Cáoimhe yn astudio Cynhyrchu Ffilm a Theledu.
Mae’n saff i ddweud, roedd camerâu a chreadigrwydd wastad am fod yn rhan o’n stori!



Graddiodd Owain gyda BA (Dosbarth 1af Anrh) mewn Animeiddio, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn yr ochr dechnegol a chreu’r stori o fewn y ffilmiau. Mae wastad yn chwilota am syniadau newydd, ac mireinio ein dull!
Mae Cáoimhe, ar y llaw arall, yn dod â chyffyrddiad mwy artistig gyda BA (Anrh) mewn Ffilm a Theledu a chariad mawr at gelf. Mae hyn i’w weld yn y sgetsh llaw mae hi’n eu greu ar gyfer blychau USB i’n cwplau!

Ac yna mae gyno ni Lyla… ein cath, a brenhines y tŷ! Mae hi wrth ei bodd yn cael mwythau, danteithion, a chreu helynt pan fydd hi’n teimlo - sy’n digwydd yn reit aml!
Mae hi’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cymryd brêc pan fyddwn ni wedi bod yn golygu’n rhy hir… fel arfer drwy greu dipyn bach o helynt! Mae hi’n sicr yn ein cadw ni ar ein traed!




Ar hyn o bryd, rydym yn byw gyda’n gilydd yng Ngogledd Cymru (lle mae Owain wedi ei fagu).
Rydym yn rhannu ein hamser rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Iwerddon (lle mae Cáoimhe wedi ei magu), fel arfer yn mynd i weld teulu… neu’n fwy diweddar, yn “achlysurol” yn chwilio am leoliad ar gyfer ein priodas ein hunain!
Rydym yn hoffi cadw’n brysur — rhwng gwaith llawn amser, FFAB, a bywyd cymdeithasol (fel arfer gyda’r nôs yn chwarae gemau Mario Party wedi eu trefnu dros alwad fideo gyda’n ffrindiau… sy’n mynd ychydig yn rhy gystadleuol… bob tro!)









Rydym yn hoffi cadw’n brysur, ond wastad yn llawn chwerthin a ni fyddem yn newid dim!
